{ko: heb fod yn i le}
1 Doeymherigl y ciglef
2 ynglyn aur Angel o nef
3 ac adrodd pynciau godrist
4 ac adail gron ac owdl Ghrist
5 discipl mab Mair am dyscawdd
6 val hynn y dywawd vawl hawdd
7 Dauydd o beth diveddw bwyll
8 dy gymar gerdd dda gymwyll
9 dod ar awen dy enau
10 nawdd Duw ac na ddywaid au
11 nid oes o goed trioed trwch
12 na dail ond anwadalwch
13 paid a bod gan rianedd
14 cais er Mair casau'r medd
15 ni thale fayen gwyrdd gwydd
16 na thavarn[ ]eithr iaith Ovydd
17 myn y gwr a vedd heddiw
18 may gwayw i'm pen am wen wiw
19 ac i'm tal may gofalglwyf
20 am aur o ddyn marw yddwyf
Dauid ap Gwilim